Rydym yn Gylch Meithrin sy’n darparu addysg Cyfnod Sylfaen a gofal cyfeillgar o ansawdd uchel ar gyfer plant 3 hyd 5 oed a hynny drwy Gyfrwng y Gymraeg.

Rydym yn dilyn y Cwricwlwm i Gymru sy’n ategu dysgu drwy chwarae ac ymchwilio. Caiff amrywiaeth eang o weithgareddau chwarae eu cynllunio a chaiff pob un eu goruchwylio yn dda er mwyn hybu cynnydd ymhob ardal o ddatblygiad plentyn yn ogystal â chynnig amrywiaeth gyfoeth o brofiadau dysgu drwy hunan ddewis. Mae’r Cylch Meithrin yn elusen gofrestredig a gaiff ei gynnal gan bwyllgor gwirfoddol o rieni, gofalwyr a staff yr ysgol. Mae croeso i unrhywun ddod yn aelod o’r pwyllgor. Os oes gennych ddiddordeb, cysylltwch gyda’r Pwyllgor am fwy o wybodaeth. Yn ein sesiynau boreuol, Estelle Wilcocks yw ein Harweinydd Chwarae, gyda Carys Price yn Ddirprwy Arweinydd Chwarae a Sonia Tighe yn Gynorthwyydd Chwarae.

Yn ein sesiynau prynhawn Sonia yw ein Harweinydd Chwarae. Ein Person â Gofal o dan AGC yw ein Harweinydd Chwarae neu ein Dirprwy Arweinydd Chwarae pan fo’n Arweinydd Chwarae yn absennol. Mae gennym aelod o’r Pwyllgor a enwebwyd yn Unigolion Cyfrifol sef Gareth Cornelius. Mae ein staff wedi cymhwyso ac yn parhau i fynychu cyrsiau perthnasol i’r Dysgu Sylfaen. Mae gan bob aelod o’n staff dystysgrifau cyfredol mewn amddiffyn plant a chymorth cyntaf pediatreg.

Gweithgareddau: 

Chwarae dan arweiniad y plant gyda “gwahoddiadau i ddysgu” yw prif agwedd ein gweithgareddau gyda chyswllt i arsylwadau o’r wythnos diwethaf, dewisiadau’r plant neu ddathliadau presennol.

Gall y gweithgareddau gynnwys:

  • Llythrennedd

  • Rhifedd

  • Datblygiad cymdeithasol

  • Corfforol

Dyma enghraifft o weithgareddau y byddwn yn ei gynnal:

  • Chwarae a chymdeithasu gyda phlant eraill

  • Chwarae rhydd, tu fewn a thu allan (oni bai am dywydd eithriadol)

  • Chwarae gyda thywod, dŵr, toes, tŷ bach twt, jig-so, tegannau, gemau bwrdd.

  • Gweithgareddau a gynlluniwyd megis amser stori, canu, ioga, beiciau cydbwysedd, dawnsio a Thraed Prysur.

  • Rhoddir pob cefnogaeth i bob plentyn i gyrraedd ei botensial / ei photensial.

  • Yn ystod amser byrbryd caiff y plant fwynhau eu ffrwyth ac rydym yn cynnig llaeth a dŵr ar gyfer y plant fel y gallent ei dywallt yn annibynnol. Bydd pob plentyn yn tacluso ei le ar ôl pob byrbryd. Pob wythnos, bydd cyfle i’r plant flasu gwahanol fwydydd ac fe gofnodir eu hymateb.

Oriau / Ffioedd:

Dydd Llun, Mawrth a Mercher

(yn ystod y tymor yn unig)

  • 9:00yb - 11:30yb

  • 12:30yp - 3:00yp

Lleoliad 

Cylch yn yr Ysgol,

Builth Wells CP School,

Hospital Road,

Llanfair ym Muallt,

Powys,

LD2 3GA.

Gan ddilyn rheoliadau AGC, mae gofyn i gymhareb staff i blant gael ei ddilyn sef 1:8 dros dair oed, 1:4 i blant dwy oed. Mae’r Cylch yn derbyn plant newydd o’r diwrnod y byddant yn troi’n 2 oed, os oes lle.

  • Estelle

    Sesiynau AC Arweinydd

    Ar ôl dechrau fy ngyrfa fel hyfforddwr sglefrio iâ, symudais i gefnogi plant gyda anghenion dysgu yn ysgol gynradd cyn trosglwyddo i blant dan oed ysgol. Mae gen i ddiploma mewn Ymarfer dan oed Ysgol gyda modiwl ychwanegol mewn Gweithio gyda Phlant ag Anghenion Dysgu Ychwanegol.

    Rwyf yn mwynhau gefnogi plant a’u teuluoedd yn enwedig sydd efallai’n wynebu heriau ychwanegol ac i weithio mewn partneriaeth agos â nhw. Wedi gweithio mewn ysgol dan oed ar gwersylloedd milwrol a bod yn wraig yn y fyddin am 24 mlynedd, rwyf wedi ennill cyfoeth o brofiad o weithio gyda theuluoedd sy’n wynebu cyfnodau o wahanu a straen. Rwyf wedi cwblhau’r hyfforddiant Dechreuadau Rhyfeddol ac yn ddiweddar wedi ysgrifennu dogfen arfer dda ar sut rydym yn defnyddio’r strategaethau hyn yn Cylch. Roeddwn yn falch iawn o gael rhannu hyn, nid yn unig â Phowys a Llywodraeth Cymru, ond hefyd gyda sylfaenydd y cwrs yn UDA.

    Cyrsiau eraill yr wyf wedi’u cwblhau yw Dewch i Siarad Elklan 3-5 a 5-7 oed, Cyflwyno Gwaith Coed mewn Addysg Blynyddoedd Cynnar, ACES (Profiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod), Ymlyniad a’i Rôl ym mywydau Plant a chyrsiau Bach a Iach mewn dawns, sgiliau syrcas a cherddoriaeth a symud Traed Prysur. Roeddwn yn falch o gefnogi Cylch i ennill cydnabyddiaeth am fod yn gyfeillgar i ASD gydag ASD Cymru ac am fod yn lleoliad peilot ar gyfer y Cwricwlwm newydd i Gymru.

    Yn 2022, cefais y fraint o gael fy ngwahodd i fod yn rhan o dîm, dan arweiniad Llywodraeth Cymru, a gafodd y dasg o gyd-lunio’r Ddogfen Arsylwi ac Asesu i gyd-fynd â’r cwricwlwm newydd. Rwy’n mwynhau gwylio’r plant yn hapus ac yn sefydlog pan fyddant gyda ni, yn gwneud ffrindiau newydd ac yn dangos annibyniaeth a chwilfrydedd i gymryd rhan yn y profiadau o’u cwmpas. Mae gwybod y cyfraniad cadarnhaol yr ydym yn chwarae i gefnogi cynnydd pob plentyn yn gwobrwyol dros ben.

    Y tu allan i Cylch, rwy’n fam brysur i 3 ac yn mwynhau cerdded gyda fy nau gi.

  • Sonia

    Arweinydd chwarae’r Prynhawn

    Rwy’n byw yn Llanfair-ym-muallt gyda fy mhartner a tri phlentyn. Rydw i wedi bod yn byw yma am 12 flynyddoedd ers i fi symud o Iwerddon.

    Dechreuais weithio i Gylch Meithrin yn 2016 fel staff banc a pharhaus fel staff banc pan symudodd y lleoliad i’r Ysgol Gynradd lle cychwynnodd Cylch yn yr Ysgol yn 2017. Ers hynny des i yn osodyn parhaol fel Arweinydd Chwarae yn y sesiynau prynhawn. Rydw i yn ddwli ar fy swydd ac yn wrth fy modd yn gwylio’r plant yn tyfu a datblygu mewn i gymeriad ac mae eu chwilfrydedd i ddysgu yn golygu nad yw dau ddiwrnod byth yn debyg.

    Credaf ei bod yn hynod o bwysig i wrando ar y plant a chofleidio eu syniadau ar gyfer gweithgareddau’r dyfodol ac adnoddau newydd ac ati. Teimlaf fod hyn yn sicrhau bod y gweithgareddau yn cwrdd â’r diddordebau plant ac yn cryfhau’r neges bod eu cyfraniadau’n cael eu gwerthfawrogi ac maen nhw yn cael i wrando ar. Rwy’n mwynhau’r iaith Gymraeg a dysgu am hanes a thraddodiadau Cymru.

    Yn fy amser hamdden rwy’n hoffi mynd allan i archwilio’r hyn mae cefn gwlad Cymru yn cynnig gyda fy ngwn yn enwedig archwilio cestyll.

  • Carys

    Cefais fy magu yn Llanfair-ym-muallt ac rwyf bellach yn byw ychydig filltiroedd i ffwrdd gyda fy nheulu.

    Dechreuais weithio yng Nghylch yn yr ysgol yn 2017, pan symudodd i fyny i adeilad yr ysgol gynradd. Rwyf wrth fy modd yn gweithio gyda phlant ac fe wnes i gwblhau fy nghymhwyster Nneb pan orffennais i ysgol. Hefyd cwblheais NVQ lefel 3 (pobl ifanc) Iechyd a gofal cymdeithasol.

    Ers coleg rwyf wedi gweithio mewn meithrinfa ddydd lleol. Rwyf wedi bod yn gynorthwyydd cymorth arbennig yn yr ysgol gynradd, yn weithiwr yn cefnogi teuluoedd yn y gwasanaethau plant ac yna i Gylch ar ôl cael dau blentyn o fy hun.

    Rwy'n mwynhau gweithio ochr yn ochr ag Estelle a Sonia ac unrhyw staff banc sydd gennym.

    Rwyf wrth fy modd â'r iaith Gymraeg a'r ffaith bod plant yn ein gofal, yn cael ei chlywed a dysgu Cymraeg - mae hyn yn anhygoel, ac yn ychwanegu cymaint positif ar gyfer eu dyfodol.

Cysylltwch â ni.

ebost: cmllym@gmail.com